LeTour Stage#14

17/05/2020 20:34

Wedi pythefnos o waith caled, mae peleton YGY yn parhau yn ddidrugaredd yn LeTour.  Cyfanswm yn agosai at 180 milltir, eto heddiw a nifer o'r bois yn disgleirio yn yr heulwen.  Ar ol diwrnod gorffwys, ddoe, roedd Rhys Davies yn benderfynol iawn ac unwaith eto mae o fewn cyrraedd o Owain Watts yn y ras am y crys smotiog.  Mi fydd yr wythnos olaf yn gystadleuol iawn a does dim gobaith i neb i gael diwrnod ysgafn os am wisgo un o'r crysau anrhydeddus ym Mharis.  Yn y gystadleuaeth am y beiciwr ifanc mi fydd angen trafferthion mecanyddol, siwr o fod, i atal Evan Thomas yn y crys gwyn ar ol reid ardderchog eto, heddi.

After a fortnight of hard work, the YGY peleton continues to power on mercilessly in LeTour.  A total approaching 180 miles, again today, with several riders shining in the spring sun.  After a rest day, yesterday, Rhys Davies was on a mission and is once more within touching distance of Owain Watts in the battle for the polka dot jersey.  The final week looks set to be hotly contested and nobody can affort a light day if they have ambitions of wearing one of the prestigious jerseys in Paris.  In the competition for young riders, Evan Thomas will surely have to suffer mechanical issues if he is to fail in his attempt to claim the white jersey after another excellent ride today.